Mae rhywbeth swynol ynglŷn rhai mathau o ofergoelion gwladaidd, ac mae’n bosib cael hwyl ar eu hymylon.
Er enghraifft, pan dw i’n casglu aeron ysgawen, dw i byth yn cymryd unrhyw bren yn fwriadol, ond weithiau mae’n torri i ffwrdd pan dw i’n estyn fy llaw am yr aeron. Wedyn, dw i’n hoffi dweud y fformiwla gywir i’r ddraiad, gwraig y goeden:
Rho imi beth o’th bren, Hen Ferch,
ac fe rof finnau beth o’m pren iti pan drof yn goeden.
Ond os ydw i yn Lloegr:
Give me some of your wood, Old Girl,
And I’ll give you some of mine when I turn into a tree.
Mae hyn yn olygu na fydd ysbryd y goeden ddim yn troi ei malais yn fy erbyn i.

Enghraifft arall. Unwaith gollais fy ffordd yn yr eira gyda’r nos ar lethrau Moel Tŷ Uchaf. Nes i ddim llwyddo dod o hyd i’m ffordd nac i’r cyfeiriad cywir. Roedd y nos yn agosáu. Es i i fyny ac i lawr, yma ac acw. Yn ddiweddarach, yn ôl i’r tŷ, ysgrifennes i yn fy nyddiadur yn fy iaith frodorol, “I thought I was being pixie-led.” Hynny ydy, “Ro’n i’n meddwl fy mod i’n cael fy arwain ar y gyfeilion gan bicsïod.”

Trydded enghraifft, unwaith eto gyda’r nos. Ro’n i ar fy mhen fy hun ar ucheldir Rhosili uwchben y traeth a’r môr. Ro’n i wedi bod yn sâl gyda chanser. Tybed o’n i’n mynd i fyw neu i farw? Ro’n i’n meddwl am Lothlórien, am “Gyrn Annwn” yn ôl geiriau Tennyson (yn The Princess), ‘the horns of Elfland’, sef, am awyrgylch o sancteiddrwydd dirgel, am Wlad yr Ellyllon, am y deyrnas dragwyddol. Roedd fy nghalon hanner yn y byd hwn, hanner yng ‘Ngwlad yr Ellyllon’, lle â rhyw sancteiddrwydd anhysbys ynddo.

Wel, dw i’n gobeithio na fydd y darllenwr yn meddwl fy mod i’n credu mewn dreiadon, mewn picsïod, na mewn ellyllon. Nag ydw, wrth gwrs! Ond dw i’n credu yn y profiad a elwir yng nghredoau gwerin Cernywaidd ‘cael eich arwain dan hud y picsïod’: mae’r profiad yn real.
Ymhellach, mae ’na fyd anweladwy, teyrnas sydd o’n gwmpas – y maes dan ni weithiau’n teimlo ei atyniad, y lle dan ni’n ‘clywed y cyrn yn chwythu’ – y lle bydd rhaid i bawb ohonym ni fynd iddo ar ddiwedd ein taith ddaearol.
Dw i’n credu bod y rhan fwyaf o blant ym Mhrydain yn clywed ‘cyrn Annwn’, yn hawdd ac yn glir. Mae’r sŵn yn llifo yn rhwydd i mewn i’w bywyd, wedyn, yr un mor gyflym, yr un mor hawdd, mae’n dod yn dawel rhwng gêmau a diddordebau’r byd. I blant, mae’r rhyfeddol, y nwmenaidd, y symbolaidd, a’r llythrennol yn cydfodoli heb gywilydd. Mae eu byd yn dal i belydru.
Ond efallai erbyn eu hugeiniau maen nhw dod yn fyddar i’r cyrn, i alwad y byd goruwchnaturiol, ac ella mae rhai byth yn eu clywed eto trwy weddill eu hoes: ni all Wendy hedfan mwyach; nid oes gan Arthur Excalibur; nid yw Siôn Corn yn dod yn y nos; does dim lle fel Lothlórien; dim Aslan a elwir gan enw arall yn ein byd ni. Fel Gehazi, mae’n nhw’n anymwybodol o luoedd tân ar y bryniau o’u cwmpas. Mae gofalon y byd hwn a hudoliaeth golud a chwantau am bopeth o’r fath yn dod i mewn i’r galon ac yn tagu sŵn a galwad y cyrn.
Wrth gwrs, mae rhai yn clywed y cyrn hyd eu henaint; mae rhai yn eu colli’n ifanc ac yn dechrau eu clywed eto yn annisgwyl yn ddiweddarach yn eu bywyd.
Dw i’n credu bod y byddardod yn dechrau tuag yr oed un ar ddeg neu ddeuddeg: mae cywilydd yn mynd i mewn i’r meddwl; maen nhw’n dod yn ymwybodol o gael eu gwylio. Mae rhyfeddod yn dechrau ofni gwawd.
Tuag oed un ar bymtheg mae llawer o blant Prydeinig eisoes wedi dysgu gwers fawr yr oes fodern: sef, mae’r byd modern yn ceisio peidio rhyfeddu: mae dadhudiad yn angenrheidiol.
Erbyn eu hugeiniau mae “gofalon y byd hwn a hudoliaeth golud a chwantau am bopeth o’r fath yn dod i mewn” – gwaith, gwraig, tŷ, morgais, plant, pleserau, iechyd a salwch – ac mae’r dyn yn cymhwyso ei hunan i fyd ac i fywyd heb y realrwydd go iawn. Ac erbyn eu tridegau mae’r byddardod hwn wedi troi’n arferol.
Ond mae ’na rai sy dim yn colli byth clywed ‘y cyrn’. Mae’n nhw’n teimlo, yn hytrach mae’n nhw’n gwybod bod ’na fyd arall, yn uwch, yn anweladwy. Maen nhw’n clywed “cyrn Annwn yn canu’n wan o bell”. Yng ngeiriau Tennyson:
O, hark, O, hear! how thin and clear,
And thinner, clearer, farther going!
O, sweet and far from cliff and scar
The horns of Elfland faintly blowing!
Dyna pam mae llenyddiaeth ffantasi (yn enwedig Tolkien), adfywiadau llên gwerin, pererindod, hiraeth fynachlogaidd, diddordeb mewn mytholeg, tirweddau cysegredig, yn parhau i fodoli. Mae ar ddynion hiraeth am le dydyn nhw erioed wedi ei weld, achos bod Duw wedi “rhoi tragwyddoldeb yng nghalonnau dynion.”
Mae’r cyfan yn cyfeirio at y byd go iawn, lle mae Iesu Grist yn byw yn nhragwyddoldeb.